Cadarn Housing Group

Houses

Croeso


Sefydlwyd Grŵp Tai Cadarn fel Cymdeithas Tai Newydd yn 1974 gyda'r nod o ddarparu llety fforddiadwy, o safon.

Ers hynny, mae'r sefydliad wedi sefydlu'i hun fel un o'r prif gymdeithasau tai yng Nghymru sy'n darparu llety i'w rentu a'i werthu, yn ogystal â nifer o wasanaethau sy'n gysylltiedig â thai. Dyma fu rhai o'r cerrig milltir allweddol yn ein datblygiad:

Parhau i ddatblygu tai newydd i bobl sengl, teuluoedd a phobl hŷn

Gweithredu gwasanaeth Gofal a Thrwsio ym Mro Morgannwg sy'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth i berchnogion tai a thenantiaid hŷn Derbyn dros 400 o gartrefu ar ystad Glyn-taf ger Pontypridd gan yr awdurdod lleol a llwyddo i gwblhau rhaglen gwelliannau gwerth miliynau o bunnoedd

Sefydlu strwythur grŵp yn 1998 gyda Grŵp Tai Cadarn fel y rhiant gwmni a Chymdeithas Tai Newydd fel is-gwmni er mwyn sicrhau hyblygrwydd, hunaniaeth glir ac effeithlonrwydd

Darparu gwasanaethau technoleg gwybodaeth i gleientiaid allanol yn cynnwys nwyddau meddalwedd ar gyfer y sectorau tai a gofal

Sefydlu gallu pensaernïol mewnol yn 2000 drwy gaffael practis pensaernïol cymunedol

Gweithredu menter prydlesu i'r digartref ers 2005 mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i ddarparu llety dros dro o safon fel dewis amgen i'r ddarpariaeth Gwely a Brecwast

Derbyn trosglwyddiad Cymdeithas Dai'r Drenewydd yn 2006 a thros 200 o gartrefu wedi'u rhentu yn y Drenewydd, Powys

Aelod o Integrate (rhwydwaith o gymdeithasau tai) er mwyn darparu dull cydweithredol o gyflwyno rhaglen grant tai cymdeithasol yn effeithiol a gwneud y mwyaf o economïau caffael a safon

Mae'r Grŵp bellach yn darparu 2,500 o gartrefi ar draws 10 ardal awdurdod lleol yng Nghymru, yn ogystal ag amrywiaeth o wasanaethau tai.