Cadarn Housing Group

Houses

Houses

Cyflwyniad


Practis pensaernïol mewnol yw Pensaernïaeth Cadarn sydd hefyd yn cynnig gwasanaeth cystadleuol i amrywiaeth o gleientiaid allanol yn y sector breifat a’r sector gyhoeddus sy’n anelu at roi’r safon uchaf bosib mewn dyluniad ac adeiladwaith o bob un prosiect. Mae ein staff sydd â chymhwyster proffesiynol yn darparu gwasanaeth cyfeillgar a dibynadwy a gefnogir gan ehangder profiad rheoli dylunio ac adeiladwaith sy’n sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth sy’n troi syniadau a dyheadau yn realiti. Mae cael ein cynnwys mewn cymdeithas dai fwy yn rhoi cyfle i ni ddeall yn llawn y sector dai fforddiadwy a chreu perthynas weithio clos gyda gweithwyr tai proffesiynol. Mae comisiynau arferol yn cynnwys amrywiaeth o brosiectau adeiladau newydd ac Adnewyddu adeiladau, prosiectau adeiladu cymunedol, strategaethau stadau, strategaethau dyluniad trefol, ac astudiaethau dichonoldeb i gefnogi ceisiadau am arian cyfalaf.

Mae’r sgiliau a’r wybodaeth broffesiynol sydd ar gael i ni yn rhwydd i’w trosglwyddo i sectorau heblaw tai, ac rydym ar hyn o bryd yn edrych ar ddatblygu cyfleoedd gwaith yn y dyfodol ym meysydd addysg ac iechyd. Darparwn yr amrediad llawn o Wasanaethau Pensaernïol a ddisgwylir gan bractis sydd wedi’i gofrestru gyda’r RIBA, gan gynnwys asesiad safle ac astudiaethau dichonoldeb, rheoli prosiect a chydlynu tîm dylunio a rheoli.

Mae’r gwasanaeth yn aml wedi’i deilwra’n benodol ar gyfer angen pob cleient, ac rydym yn cynghori pob cleient ynglŷn â’r gwasanaeth mwyaf priodol, yn dibynnu ar faint a natur pob prosiect. Mae cost adeiladwaith prosiectau mae’r tîm yn ymgymryd â hwy fel rheol yn amrywio o lai na £50,000 i tua £2 filiwn.

Mae Pensaernïaeth Cadarn wedi’i gofrestru gyda Construction-line a’r Chartered Institute of Building. Mae gennym sicrwydd ansawdd, ac fel practis cofrestredig o’r RIBA, rheolir pob prosiect gan bensaer siartredig.