Cadarn Housing Group

Houses

Ein Dull


Rydym yn cefnogi ein cleientiaid wrth ddarparu tai newydd ac adeiladau newydd sy’n ffurfio y cefnlen i fywyd y gymuned. Rydym yn angerddol ynglŷn â chyflwyno pensaernïaeth o safon a dyluniad trefol, ac mae ein prosiectau yn cyfrannu i drefi sy’n bod eisoes drwy ymateb yn briodol i’r amgylchedd lleol a chynnig atebion ystyrlon yn nhermau eu pensaernïaeth ac effaith cymdeithasol. Credwn fod gwerth mewn cymdogaeth ble mae defnydd cymysg a daliadaeth gymysg sy’n darparu cyfleoedd gwaith a hamdden o fewn cyrraedd hwylus i gartrefi, ac yn credu fod hyn yn rhag ystyriaeth angenrheidiol wrth ddarparu cymunedau cynaladwy. Deallwn fod cymunedau yn gynnyrch llwyddiannus o ryngweithio rhwng cymdogion, ac y gall yr amgylchedd naill ai lesteirio neu hyrwyddo hyn.

Mae Pensaernïaeth Cadarn wedi ymrwymo i:

• Greu cymunedau sy’n gyfan gwbl gynaladwy
• Creu prosiectau sy’n seiliedig ar gymryd rhan effeithiol gan y gymuned
• Gostwng ein heffaith cyfunol ar yr amgylchedd
• Darparu gwell amgylchedd byw ansoddol i bawb

Mae gan Bensaernïaeth Cadarn gryfderau arbenigol mewn prosiectau adeiladu o’r newydd a Phrosiectau adnewyddu yn y sectorau isod:

• Tai cymdeithasol
• Addysg
• Cymuned
• Adfywiad trefol