Cadarn Housing Group

Houses

Gofal ac Thrwsio


Mae Gofal a Thrwsio yn y Fro yn un o rwydwaith o gynlluniau Gofal a Thrwsio ledled Cymru. Maent yn bodoli i alluogi perchnogion tŷ hŷn i gael gwaith wedi’i wneud i’w tai – trwsio, adnewyddu neu addasiadau.

Mae Gofal a Thrwsio yn cefnogi cleientiaid drwy’r broses o gael amcangyfrifon am waith, gan ganfod yr arian all fod ar gael os na all y cleient fforddio gwneud y gwaith, ac wedyn arolygu’r contractwyr ar y safle. Gall Gofal a Thrwsio hefyd ymddwyn fel asiant grant i’r cleient sy’n gymwys am grant cyfleusterau anabl.

Cyllidir Gofal a Thrwsio gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Cymdeithas Tai Newydd a Chyngor Bro Morgannwg. Mae Gofal a Thrwsio yn y fro hefyd yn rhedeg Gwasanaeth Person Hylaw, sy’n gwneud tasgau bach iawn ble mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim, ac mae’r cleientiaid yn talu am y deunydd yn unig

Mae Gofal a Thrwsio yn y fro yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg drwy Brosiect Addasiadau Bach gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol a hefyd yn gosod sêff allweddau i’r bobl hynny sydd angen cymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Os dymunwch gael mwy o wybodaeth yna cysylltwch â nios gwelwch yn dda.