Pecynnau Meddalwedd
SPriNT
Yn Cadarn rydym yn deall fod amser ac ymdrech yn cael ei dreulio yn cofnodi a monitro gwybodaeth am bobl a gefnogwyd. Rydym yn sylweddoli fod gweithwyr cefnogaeth/achosion yn rhwystredig ynglŷn â’r amser maent yn ei wario ar waith papur yn hytrach na chefnogi a gweithio â chwsmeriaid. Wedi cydweithio â Cymorth Cymru, penderfynasom wneud rhywbeth ynglŷn â hyn…
Mae SPriNT yn ddatrysiad meddalwedd arloesol, wedi ei gynllunio i fonitro a chofnodi pob math o wybodaeth sydd yn gysylltiedig â chefnogi pobl. Dyluniwyd y meddalwedd mewn partneriaeth â Cymorth Cymru a ddarparodd yr arbenigedd perthnasol i sicrhau bod SPriNT mor effeithiol ag sy’n bosib. Mae SPriNT yn hawdd i’w ddefnyddio â’r opsiwn o ddefnyddio dewislen gwympo wedi’i chynllunio yn arbennig ar gyfer eich sefydliad chi er mwyn cofnodi gwybodaeth safonol. Mae adroddiadau hefyd wedi eu teilwra ar gyfer eich anghenion chi i sicrhau eich bod yn cael y gorau o’r meddalwedd.
Mae SPriNT bron yn gallu cael gwared â gwaith papur ac yn gwella’n sylweddol effeithiolrwydd eich tîm cefnogi pobl.
I darganfod mwy o manylion ynglyn a SPriNT, ymwelwch a: http://www.mysprint.org.uk
TRAC
Yn galw pob rheolwr!
Rydym yn deall nad yw cadw rheolaeth ar amserlen gweithwyr a gweithgareddau sydd wedi’u prisio yn hawdd ac yn gallu cymryd llawer o amser ac adnoddau gwerthfawr. Mae meddalwedd newydd TRAC gan wasanaethau gwybodaeth Cadarn yn anelu i symleiddio’r dasg hon ac yn gweithredu fel teclyn gwerthfawr wrth fonitro a rhoi tystiolaeth o faint o amser gweithiwr sy’n cael ei wario ar brosiectau/cwsmeriaid gwahanol.
Mae TRAC yn darparu datrysiad amserlen lawn a chynhwysfawr a meddalwedd prisio prosiectau. Rydym yn anelu i’ch helpu i wella eich amserlen a’ch prosesau rheoli prosiect, ac felly’n arbed eich amser a’ch arian.
Mae TRAC yn eich rhoi chi mewn rheolaeth lawn o’ch staff, prosiectau, amser, a chostau - gan wneud gwybodaeth yn weledol a chyraeddadwy bob amser.
CMS
Mewn partneriaeth â Gofal a Thrwsio Cymru, datblygodd gwasanaeth gwybodaeth Cadarn System Rheoli Achos (CMS) i symleiddio y dulliau amser gwastraffus o recordio gwaith a wneir gan asiantaethau Gofal a Thrwsio ledled Cymru.
Mae’r System Rheoli Achos (CMS) yn caniatáu i sefydliadau Gofal a Thrwsio fonitor eu cleientiaid, eu anghenion arbennig a newidiadau neu addasiadau sydd wedi cael eu gwneud ar eu heiddo. Mae Gofal a Thrwsio Cymru yn defnyddio’r wybodaeth hon i roi adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn sicrhau cyllid diogel i’r prosiect yn y dyfodol.
Pilot Pro
 pwysau cynyddol yn cael ei osod ar landlordiaid i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Deddf Nwy (gosod a defnyddio) 1998, dyluniodd Gwasanaethau Gwybodaeth Cadarn feddalwedd newydd i symleiddio y broses o fonitro a chofnodi gwybodaeth diogelwch nwy.
Mae Pilot Pro yn eich darparu â’r gallu i gofnodi a monitro hanes eich gwasanaethu nwy. Bydd data o Gwasanaethu Offer Nwy, Gwirio Diogelwch Nwy a Rheoliad Nwy yn gallu cael ei gyfuno a bydd archwiliad ym mhob eiddo.
Mae Pilot Pro wedi ei ddylunio yn arbennig i diddymu gweinyddiad gwastraffus a chamgymeriad dynol yn codi o gydymffurfio â Deddf Nwy (gosod a defnyddio) 1998. Mae’n sicrhau bod yr holl ddata angenrheidiol ar gyfer Gwasanaethu Offer Nwy, Gwirio Diogelwch Nwy a Rheoliad Nwy yn cael ei gofnodi, ei gadw ac yn hawdd i’w ystyried.