Cymhorthfa Cadarn
Cymhorthfa Cadarn
Darpara dim swyddogion cefnogaeth IS Cadarn wasanaethau cefnogaeth ar gyfer nifer o sefydliadau drwy Gymru. Gall Cadarn gynnig tawelwch meddwl caledwedd a meddalwedd am bris fforddiadwy:
Cefnogaeth Meddalwedd Safonol
Cefnogaeth Meddalwedd Uwch
Cefnogaeth Meddalwedd o’r Radd Flaenaf
Cefnogaeth Safonol Caledwedd Cadarn
Cefnogaeth Caledwedd Cadarn o’r Radd Flaenaf
Caffaeliad
Mae Cadarn yn darparu gwasanaeth caffaeliad meddalwedd a chaledwedd; bydd ein tîm profiadol yn eich helpu i benderfynu ar y manylion yr ydych angen ac yn ceisio eu gorau i siwtio eich anghenion a’ch cyllideb. Byddant wedyn yn chwilio am ffynhonnell ac yn eu dosbarthu i’ch drws.
Dylunio
Mae gan ymgynghorwyr Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) Cadarn nifer o flynyddoedd o brofiad o ddelio â chwmnïau o wahanol feintiau oddi fewn i wahanol amgylchedd TG. Beth bynnag fo’ch anghenion gall Cadarn eich helpu i gynllunio ac adeiladu datrysiad i gyfarfod â’ch anghenion busnes.
Ymgynghori
Gall ymgynghorwyr GG eich cynghori ar dechnolegau newydd neu adolygu eich amgylchfyd TG presennol er mwyn gwella ei berfformiad a’i ddibynadwyedd.
Gosod
Os ydych wedi prynu caledwedd neu feddalwedd gan Cadarn neu ffynhonnell arall mae’n tîm profiadol o weithwyr proffesiynol GG ar gael i osod a ffurfweddu.
Datblygu Systemau
Mae gan ein tîm datblygu rhaglennu record wych o ddarparu datrysiadau fforddiadwy. Beth bynnag fo’ch anghenion meddalwedd, gall datrysiad pwrpasol gan Cadarn gyfarfod eich anghenion. Gallai ein hystod o feddalwedd pwrpasol gael ei deilwra i siwtio eich anghenion.
Mae ein tîm profiadol ar gael i helpu cyflenwi eich amcanion busnes a datrys unrhyw fater sy’n cysylltiedig â TG eich busnes.
Am fwy o wybodaeth am y pecynnau sydd ar gael cysylltwch ag aelod o’r tîm, a fydd yn barod i’ch helpu - newbusiness@cadarn.co.uk