Cadarn Housing Group

Pwy ydym ni



Yn y tîm mae amrywiaeth o arbenigwyr TG sydd â chymwysterau da gyda gwybodaeth a phrofiad o weithio oddi fewn i’r sector dai. Mae’r dealltwriaeth hwn o’r farchnad yn galluogi adran Gwasanaethau Gwybodaeth Cadarn i gyflwyno datrysiadau effeithiol, ymarferol i’ch anghenion TG.

Ar hyn o bryd mae pump aelod o staff yn gweithio i’r adran:

Richard, Pennaeth Gwasanaethau Gwybodaeth

Pennaeth Gwasanaethau Gwybodaeth Cadarn ers Chwefror 2004, oedd yn flaenorol yn reolwr TG ar ran British Airways Long Haul Engineering wedi ei sefydlu ym Maes Awyr Caerdydd am chwe mlynedd. Cyn hyn bu’n Was Sifil am 13 mlynedd yn gweithio mewn nifer o adrannau; Cyllid y Wlad, DVLA a Thrysorlys Ei Mawrhydi. Mae gan Richard gefndir o weithio mewn systemau, gan weithio â phrif-gyfrifiaduron IBM ac ICL, systemau Unix, a chronfeydd data Ingres ac Oracle.

Prosiectau mawr yn cynnwys; Mudiant o brif-gyfrifiadur ICL i system Unix ar ran yr Swyddfa Ystadegau Cyhoeddus, Year 2000 Compliance Management ar ran British Airways, datblygiad cymhwysiad SPriNT application ar ran Cadarn.

Aelod o Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain, hefo gradd BSc(Anh.) mewn Cyfrifiadureg a gweithiwr Proffesiynol Ardystiedig gan Microsoft. Ar hyn o bryd mae’n astudio am Radd Meistr mewn Gweinyddiad Busnes.

Matthew, Rheolwr Gweithrediadau Gwasanaethau Gwybodaeth

Mae Matthew yn gyfrifol am gynnal rhwydwaith mewnol TG ar gyfer Grŵp Tai Cadarn a darparu ystod o ymgynghori technegol a gwasanaethau adeiladwaith i gwsmeriaid allanol Cadarn.

Mae wedi gweithio fel Gweithiwr proffesiynol TG am dros 9 mlynedd yn ennill profiad gwerthfawr mewn nifer o ddisgyblaethau TG a gweithio ar dros 100 o brosiectau ym mhob sector o’r diwydiant. Ardaloedd o arbenigedd arbennig yw Reoli prosiectau, ymgynghori, gweithredu rhwydwaith, datblygiad cymhwysiad a gweinyddiad cronfa ddata.

Mae gan Matthew gymhwyster MCSE ers 2001.

Damian, Rheolwr Prosiect Gwasanaethau Gwybodaeth

Ymunodd Damian ag Adran Gwasanaethau Gwybodaeth Cadarn ar ddechrau 2007 i gyflenwi yn lle Sarah Rose tra ei bod ar gyfnod mamolaeth.

Mae Damian yn darparu cymorth a rheoli prosiect i gleientiaid mewnol ac allanol ar amrywiaeth o Brosiectau Meddalwedd TG. Mae gan Damian dros 9 mlynedd o brofiad ym maes TG fel cyflogai ac fel ymgynghorydd contract annibynnol yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau TG cymhleth ledled y byd. Maent wedi croesi sawl diwydiant ac wedi pontio sawl ffin ddiwylliannol. O ddadansoddi busnes, gofynion cipio a chynllunio, yn ogystal â rheoli Prosiect drwy'r broses o'i gyflwyno, mae wedi darparu ymgynghoriaeth gwerthu, wedi rheoli prosiectau, ac wedi profi ac ymgorffori llawer o systemau i gefnogi Prosiectau mewn sefydliadau mawr.

Mae wedi rhoi rhaglenni safonol a phwrpasol ar waith i gleientiaid rhyngwladol gan gynnwys Siemens Communications- (DU), Vodafone- (DU), H3g- (DU), Meteor Mobile- (Iwerddon), France Telecom- (Ffrainc), Base Telecom- (Gwlad Belg), Orange- (Denmarc), TeliaSonera- (Sweden) Mobiltel- (Bwlgaria), Consistel- (Yr Emiraethau Arabaidd Unedig), STC- (Sawdi Arabia), CellC- (De Affrica), MTN- (Uganda), MTN- (Nigeria), US Cellular- (UDA) and Vodafone- (Seland Newydd), Enillodd Damian radd BSc (Anrh) mewn Rheoli Technoleg o Brifysgol Cymru Caerdydd yn 1998 ac mae ran o'r ffordd drwy'r ardystiad rheoli prosiect PRINCE II.

Sarah, Rheolwr Prosiect Gwasanaethau Gwybodaeth

Mae Sarah wedi gweithio i Wasanaethau Gwybodaeth Cadarn am 7 mlynedd ar ôl iddi raddio hefo BSc (Anh.)

Systemau Rheoli Gwybodaeth Fusnes o Brifysgol Plymouth. Mae Sarah yn darparu cefnogaeth i gwsmeriaid mewnol ac allanol ar ystod o feddalwedd TG.

Richard, Swyddog Gwasanaethau Gwybodaeth (Rydw i'n siaradwr Cymraeg)

Cyn ymuno a Cadarn yn 2005, bu Richard yn gweithio yn British Airways am wyth blynedd ar ol graddio efo BSc(Hons) mewn Efrydiau Cyfrifianeg ym Mhrifysgol Morgannwg, Pontypridd.

Mae Richard nawr yn gweithio yn yr adran Systemau Gwybodaeth fel Swyddog Gwasanaethau Gwybodaeth gan darparu cefnogaeth i Cadarn, Newydd a nifer o cleientiaid allanol.

Jim, Swyddog Gwasanaethau Gwybodaeth

Ymunodd Jim ag Adran Systemau Gwybodaeth Cadarn ar ôl 4 blynedd lwyddiannus gyda LogicaCMG sydd wedi'u lleoli ledled De Cymru ac mae ganddo brofiad mewn sawl agwedd o faes TG, gan gynnwys Darparu Gwasanaethau; Rheoli Newid a Rheoli Isadeiledd.

Mae ganddo dystysgrif Sylfaen Rheoli Gwasanaeth ITIL ar hyn o bryd, ac mae Jim yn gobeithio cael ardystiad MCE yn y dyfodol agos.

Ian, Gwybodaeth Gwasanaethau Chynorthwywr

Cyn ymuno a Gawsanaethau Gwybodaeth Cadarn, bu Ian yn gweithio gan datblygu meddalwedd er mwyn ChurchSafety; arweinwr sefydledig mewn darparu iechyd a diogelwch I eglwysi a mannau addoli trwy’r Teyrnas Unedig. Ar ol hyn, ymunodd Ian a Selectron, cwmni sydd yn arbenigo mewn thriwsio cyfrifiaduron symudol, cyn symud i Cadarn.

Mae Ian yn aelod o’r British Computer Society a’r Institute of Engineering and Technology. Mae Ian hefyd gyda gradd Bsc(Hons) mewn astudiaethau cyfrifiaduron.