Newydd Vale, Amdanom ni
Mae Rhanbarth y Fro yn rheoli tua 1,200 o eiddo ym Mro Morgannwg a nifer fach yng Nghaerdydd.
Mae’r stoc dai yn cynnwys cymysgedd o fflatiau, tai, tai un llawr a thai cysgodol.
Yn nhermau lleoliad mae llawer o’r anheddau wedi eu lleoli yng nghanol y Barri fodd bynnag rydym hefyd yn berchen ar stoc ym Mhenarth, Dinas Powys, Sully, Y Bont-faen a Llanilltud Fawr. Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda, os ydych am restr lawn o’r eiddo
Rheolir rhanbarth y Fro gan ein swyddfa yn 121 Broad Street, Y Barri sydd ar agor rhwng 9am a 5pm Dydd Llun i Ddydd Gwener (ag eithrio Gwyliau Banc).
Mae’r aelodau staff canlynol yn gweithio yn Swyddfa’r Fro:
• Rheolwr Tai – Nicholas Jones
• Swyddogion Tai Rhanbarthol – Kim Williams, Ben Woods ac Rob Pughsley
• Swyddog Cyswllt â’r Gymuned - Catryn Grundy
• Swyddog Gosod – Val Cox
• Derbynnydd – Lorraine Hughes ac Annette Brunton
• Cynorthwywyr Tai – Debbie Xerri, Laura Maguire a Chris Roberts-Clarke
• Cydlynydd Tai Gwarchodol - Pat Turner and Debra Percival
• Cydlynwyr Cynllun – Giles Middlmass, Pat Mitchell, Lesley Ord ac Kim Mason
• Glanhawyr Cynllun – Mavis Coombs ac Sian Davies
Swyddogaeth y Rheolwr Tai
Mae gan y rheolwr tai gyfrifoldebau gweithredol ac yn goruchwylio rheolaeth tai, tai cynhaliol a datblygiad cymunedol.
Swyddogaeth y Swyddog Tai
Mae gan y Swyddog Tai gyfrifoldeb am reolaeth dros eiddo’r Gymdeithas o ddydd i ddydd, gosod / lleoedd gweigion, ôl-ddyledion rhent, cymdogion sy’n boendod, rheolaeth y stad yn gyffredinol, cyfraniad y tenantiaid, a chynlluniau gweithredol y stad.
Swyddogaeth y Swyddog Datblygu Cymunedol
Mae’r Swyddog Datblygu Cymunedol yn gweithio gyda phartneriaid i gynorthwyo tenantiaid ac eraill i ddatblygu eu hunain a’u cymunedau.
Swyddogaeth y Cydlynydd Tai Gwarchodol
Cyfrifoldeb Cydlynydd Tai Gwarchodol yw rheoli trosglwyddo gwasanaeth i denantiaid mewn cyfadeiladau tai cysgodol. Mae deilydd y swydd hefyd yn darparu cefnogaeth a chymorth i bedwar Cydlynydd y Cynllun.
Swyddogaeth y Cydlynwyr y Cynllun
Cydlynwyr y Cynllun sy’n gyfrifol am ddarparu cefnogaeth cyngor a chymorth i breswylwyr sy’n byw ym mhob un o gyfadeiladau tai dan warchod.
Swyddogaeth y Derbynnydd
Prif bwrpas y swydd yw darparu gwasanaeth rheng flaen o’r radd flaenaf i’r cwsmeriaid gan gynnwys ateb galwadau ffôn , derbyn taliadau rhent, ymdrin â chwestiynau a derbyn ymwelwyr i’r swyddfa. Mae’r swydd hefyd yn golygu rhoi gwasanaeth i Fwrdd Rhanbarthol y Fro.
Swyddogaeth y Cynorthwyydd Tai
Mae Cynorthwywyr Tai yn gyfrifol am:
• Gasglu rhent a mantoli’r rhent ar ddiwedd y dydd.
• Ymdrin â chwsmeriaid/contractwyr/ asiantaethau allanol ynglŷn â gwahanol bynciau gan gynnwys cyngor cyffredinol ar dai, ymholiadau rhent, budd-daliadau tai ac ati.
• Monitro a chasglu adlenwadau tenant/ dyledion rhent tenantiaid blaenorol
• Cefnogi y Derbynnydd a’r Swyddogion Tai
Swyddogaeth y Swyddog Gosod
Mae gwaith y Swyddog Gosod yn cynnwys:
• Cydlynu y mannau gweigion a gosod eiddo.
• Cysylltu ag asiantaethau allanol/awdurdodau lleol/cymdeithasau tai eraill.
• Rhoi gwybodaeth i Awdurdodau Lleol a darparwyr gwasanaethau h.y. SWALEC, Nwy Prydain, Dŵr Cymru am denantiaethau a ddaeth i ben ac sydd ar fin dechrau.
• Cynnal cofrestr HOMES4U
• Ymdrin ag ymholiadau ffôn ynglŷn â hynt cais ac yn ymateb I lythyrau/gwybodaeth a dderbyniwyd yn cefnogi ceisiadau.
• Cynnal system amser hyblyg
Newydd Valleys, Amdanom ni
Mae rhanbarth y cymoedd yn rheoli tua 1,100 o eiddo yn Rhondda Cynon Taf, Nedd Port Talbot a Phowys.
Mae’r stoc dai yn cynnwys cymysgedd o fflatiau, tai, tai un llawr a llety cysgodol.
O ran lleoliad mae llawer o’n heiddo o fewn Rhydyfelin; fodd bynnag rydym yn berchen ar eiddo yn Aberdâr, Newpark, Tonteg, Glyn Nedd a’r Drenewydd. Cysylltwch â ni am restr llawn o’r eiddo, os gwelwch yn dda.
Mae rhanbarth y Cymoedd yn cael ei reoli o’n swyddfeydd yn Trem Y Cwm, Ffordd Masefield, Rhydyfelin, Pontypridd sydd ar agor rhwng 8.30am a 4.30pm ddydd Llun hyd ddydd Gwener (ag eithrio Gwyliau Banc).
Mae ail swyddfa wedi’i lleoli yn Nhŷ Dewi Sant, y Drenewydd, Powys ac mae ar agor rhwng 9.00am – 1.00pm, 1.30pm - 3.00pm.
Mae’r aelodau o’r staff a restrir isod yn gweithio o’n swyddfa yn y Fro:
• Rheolwr Tai – Joanne Carter
• Uwch Swyddog Tai (y Drenewydd) – Emma Brute
• Swyddogion Tai Ardal – Tracy James, Swydd yn wag
• Swyddog Gosod– Rachel Dent
• Derbynnydd –Cheryl Silcox, Hannah Kandeh
• Cynorthwywyr Tai – Jackie Holly, Lisa Thomas
• Cynorthwywyr Rheoli Ystad (Y Drenewydd) – Tanya Smith, Nicola Downes