Cadarn Housing Group

Gwneud Cwyn



Rydym yn anelu i ddarparu gwasanaeth o safon uchel ac mae’ch barn a’ch sylwadau’n bwysig i ni. Rydym yn croesawu sylwadau ar ein perfformiad a byddwn yn ystyried unrhyw awgrymiadau a wneir gennych a allai fod o gymorth i ni wella ein gwasanaeth. Os oes gennych broblem neu gŵyn, fe wnawn ein gorau i geisio ei ddatrys yn gyflym ac effeithiol.


Gwneud cwyn answyddogol

Yn aml y ffordd gyflymaf o ddatrys problem yw drwy ein ffonio ni neu drwy alw i mewn a siarad gydag aelod o’r staff a fydd yn fodlon iawn i gymeryd eich manylion a gwneud eu gorau i ddatrys eich problem. Po fwyaf o fanylion y gellwch eu rhoi i ni, rhwyddaf yn y byd y bydd i ni eich cynorthwyo chi.


Os dewiswch gysylltu â ni, fodd bynnag, byddwn angen gwybod y canlynol:

Eich enw a’ch cyfeiriad;
Ble, pryd a sut y gallwn gysylltu â chi;
Manylion eich cwyn;
Yr hyn yr hoffech chi i ni ei wneud i roi pethau’n iawn.
Os na all y person y byddwch yn siarad ag o/ hi neu’n ysgrifennu ato ymdrin â’ch cwyn, caiff ei anfon ymlaen i’r aelod o’r staff mwyaf priodol.


Gwneud cwyn swyddogol

Os nad ydych yn hapus gyda’r ymateb a gewch wrth wneud cwyn answyddogol, gellwch wneud cwyn swyddogol.

Gellwch wneud cwyn swyddogol wyneb yn wyneb, wrth ysgrifennu, drwy’r post, ffacs, e-bost neu ar y ffôn. Gall unrhyw aelod o’r staff gymeryd manylion am eich cwyn swyddogol. Ein prif Weithredwr sy’n ymateb i bob cwyn swyddogol a gellwch apelio ynglŷn â’r ymateb os ydych yn dal i fod yn anhapus. I gwyno am faterion a ddigwyddodd ar ôl Ebrill 1af 2006 gellwch hefyd gyfeirio’ch cwyn at Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru.


Polisi cwyn