Cadarn Housing Group

Gwella ein Gwasanaethau


Gofynnir i bob cymdeithas dai i ddangos sut y maent yn gweithio i wella eu gwasanaethau i denantiaid a’r cyhoedd. Gelwir y broses o lwyddo i wneud gwelliannau yn Gwerth Gorau a bob blwyddyn rydym yn adolygu pynciau dethol.

Mae pob adolygiad yn ystyried pump cam:

1. Rydym yn HERIO’R ffordd o wneud pethau i weld os oes gwell ffordd
2. Rydym yn YMGYNGHORI â’r tenantiaid, staff a phartneriaid ynglŷn â’u sylwadau ac yn edrych ar ganlyniadau’r adolygiadau a’r ymateb gawsom ar y mater dan ystyriaeth
3. Rydym yn CYMHARU yr hyn a wnawn â’n perfformiad, gyda chymdeithasau tai eraill a landlordiaid
4. Gofynnwn a all ein gwasanaethau GYSTADLU drwy ystyried gwerth am arian, effeithiolrwydd a defnydd o adnoddau
5. Ystyriwn GYDRADDOLDEB i sicrhau fod modd i bawb sydd eisiau eu defnyddio gael mynediad at ein gwasanaethau a’u bod ar gael yn gyson


Pan fydd pob adolygiad wedi ei gwblhau cynhyrchir cynllun gweithredu a gyflwynir i’r Byrddau i’w drafod. Mae’r Pwyllgor Archwilio yn goruchwylio’r broses ac yn monitro’r ffaith fod y cynlluniau gweithredu yn cael eu cyflawni. Mae’r broses Gwerth Gorau wedi llwyddo i wneud newidiadau mawr yn y ffordd rydym ni’n gweithio:


Blwyddyn yr Adolygiad

Pwnc

Gwelliannau a Wnaed

2002

Rheoli Incwm

Cyflwyno dull All Pay o dalu rhent

Gwella cyswllt ag adrannau budd-daliadau ‘r awdurdodau lleol dros hawliau ac ôl-ddyledion

2003

Gosodiadau

Cyflwynwyd gosodiadau a seiliwyd ar ddewis drwy Homes4U ym Mro Morgannwg a Dewis Cartref y Cymoedd yn Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot

2004

Gwasanaethau Swyddfa

Gwella mynediad i swyddfeydd drwy ailgynllunio ardaloedd derbyn a gosod cyfleusterau i bobl ag anabledd. Gwella mynediad i bobl sydd â’u dewis iaith nid yn Gymraeg na Saesneg drwy ddefnydd o Linell Iaith.


Yn 2005 buom yn adolygu ein gwasanaeth atgyweirio, ein gwasanaethau stad a rheolaeth tenantiaid, cefnogaeth a gorfodaeth. Roedd rhain yn adolygiadau mawr a nodwyd nifer o welliannau:


Atgyweiriadau

Gwelliant

Cynnydd

Sicrhau fod o leiaf 70% o’r gwariant ar waith a gynlluniwyd

Yn 2006 bydd 80% o’r gwariant ar atgyweiriadau a gwelliannau a gynlluniwyd

I wneud defnydd mwy effeithiol o adnoddau staff drwy greu tîm cynnal a chadw canolog

Crëwyd tîm cynnal a chadw canolog o Ebrill 1 2006

I adolygu arferion gofal am y cwsmer i’n contractwyr ac i gynnig gwelliannau tebyg i apwyntiadau

Mae ymarfer wedi dechrau mewn partneriaeth gyda saith cymdeithas dai i wella’n gwasanaethau cynnal a chadw. Dylai hwn fod yn ei le erbyn Ebrill 2007

Datblygu gwell systemau monitro ar gyfer gwirio diogelwch nwy

Cynlluniwyd rhaglen gyfrifiadurol newydd i gyflawni’r dasg hon

Datblygu safon isafbwynt newydd i sicrhau fod pob eiddo a osodir mewn cyflwr da

Mae hwn bellach yn ei le

Gwella rheoli ansawdd

Mae aelod dynodedig o’r staff bellach yn gwneud archwiliadau rheolaidd o’r stadau ac y mae atgyweiriadau a gwblhawyd yn ddarostyngedig i wiriadau rheolaeth ansawdd

Dulliau gweithredu i godi tal ar denantiaid am waith sy’n rhan o’u cyfrifoldeb hwy

Mae dull newydd o weithredu bellach yn cael ei ddefnyddio



Gwasanaethau Stad

Gwelliant

Cynnydd

Gwella ansawdd gwasanaethau tebyg i lanhau a thorri glaswellt

Mae aelod dynodedig o’r staff nawr yn gwneud archwiliadau rheolaidd o’r stadau

Gwneud gwell defnydd o ymateb y tenant

I adolygu’r arolwg blynyddol o’r gwasanaethau i sicrhau fod y canlyniadau yn ddefnyddiol ac y gellid eu defnyddio pan fydd cytundebau newydd yn cael eu sefydlu. Bydd hyn yn cael ei wneud cyn diwedd 2006

Lleihau problemau ar stadau a grëir gan sbwriel, cŵn, sŵn a thrafnidiaeth

I adnabod materion a pharatoi cynlluniau gweithredol i ymdrin a’r materion a godwyd. Mae hwn yn ymarfer sy’n mynd rhagddo

Gwella dyluniad stadau

I ddefnyddio canlyniadau adolygiadau tenantiaid i sicrhau fod pryderon tenantiaid yn derbyn sylw yng nghartrefi’r dyfodol. Mae hwn yn ymarfer sy’n mynd rhagddo

Gwella rheolaeth cynlluniau gwelliannau

Bydd gan pob cynllun gwelliant nawr berson penodedig yn gyfrifol am reolaeth prosiect. Bydd dymuniadau a sylwadau’r tenantiaid a’r gweithredu angenrheidiol yn cael eu nodi a’u cofnodi



Rheolaeth Tenantiaeth, cefnogaeth a gorfodaeth

Gwelliant

Cynnydd

Gwella’r ymateb i gwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol trwy wneud gwell defnydd o’r offer sydd ar gael

Adolygwyd y dulliau o weithredu a rhoddwyd hyfforddiant i’r staff ar yr offer i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

Gwella gweithio ar y cyd gydag asiantaethau tebyg i’r heddlu ac Iechyd yr Amgylchedd, i gydlynu’r gweithredu

Mae hwn yn ymarfer sy’n mynd rhagddo

Cael mynediad i gefnogaeth annibynnol i’r tenantiaid sydd ei angen

Darperir cefnogaeth symudol i’r tenantiaid hynny sydd ei angen ond ychydig iawn o arian sydd ar gael. Byddwn yn casglu tystiolaeth am yr angen ac yn cymryd mantais o bob cyfle i ofyn am gyllid pan fydd cyfle yn codi

Gwella datrysiad o anghydfod cymdogion wyneb yn wyneb

Pan fydd hynny’n briodol gwnawn ein gorau i ddatrys anghydfod rhwng cymdogion drwy gyfarfod â phobl yn hytrach na thrwy ohebiaeth



Adolygiadau cyfredol ac yn y dyfodol

Mae gennym gynllun i sicrhau fod pob cylch pwysig o waith yn cael ei adolygu bob pum mlynedd

Blwyddyn a gynlluniwyd ar gyfer Adolygiad

Pwnc

2006

Datblygiad Cymunedol

2006

Ymglymiad Cwsmer

2006

Tai ble ceir cefnogaeth

2007

Rheolaeth Incwm

2007

Gosod

2008

Gwasanaethau Swyddfa a Mynediad

2008

Atgyweiriadau



Arolygydd yn Galw

Mae’n rhaid i bob cymdeithas dai yng Nghymru gydymffurfio â chôd rheoli. Mae’n ddogfen a gyhoeddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a mae’n gosod allan mewn peth manylder ei Disgwyliadau Allweddol ynglŷn â’r ffordd mae cymdeithasau tai i gael eu trefnu a sut y dylent drosglwyddo eu gwasanaethau. Rhoddwyd y dasg o arolygu cymdeithasau tai ar gylch rheolaidd i Swyddfa Archwilio Cymru i sicrhau eu bod yn cadw at y côd.

Ar Hydref 16 2006 bydd yr arolygwyr yn ymweld â Newydd ac yn treulio bythefnos yn edrych ar y gwasanaethau rydym yn eu darparu. Byddant yn cynnal trafodaethau gyda’r staff, bydd aelodau o’r Bwrdd a thenantiaid yn ein cynorthwyo i adnabod y pethau rydym yn eu gwneud yn dda a’r pethau y gallwn eu gwella. Bydd pob un o’r tenantiaid yn cael copi o grynodeb o’r hyn bydd yr arolygwyr yn eu darganfod.

Felly os oes gennych gwestiynau am yr arolwg neu eich bod eisiau codi unrhyw faterion gyda’r arolygwyr, dylech gysylltu â Newydd cyn gynted â phosibl.