Cadarn Housing Group

Bwriadu symud?


Newydd Vale

Mae pob eiddo Cymdeithas Dai Newydd yn y Fro yn cael ei osod drwy gynllun HOMES4U sy’n cael ei drefnu mewn perthynas â Chyngor Bro Morgannwg a Chymdeithas Dai Cymru a’r Gorllewin.

Am fwy o wybodaeth am y cynllun hwn ac am fanylion ynglŷn ag eiddo sydd ar gael yn gyfredol dewiswch y cyswllt canlynol, os gwelwch yn dda:

Cynllun Dosbarth Homes4U

Ffurflen gais Bro Morgannwg
Taflen Bro Morgannwg

Taflen Ffvithiau Tai

I wneud cais am eiddo yng Nghaerdydd cysylltwch, os gwelwch yn dda â’n swyddog gosod, Val Cox ar 01443 704323 am becyn cais.

Mae’r eiddo sydd gennym yng Nghaerdydd yn Cae Samson, Heol Llanwern, Taf Ela


Newydd Valleys

Mae holl eiddo Cymdeithas Tai Newydd o fewn Rhondda Cynnon Taf a Chastell-nedd Port Talbot yn cael eu gosod drwy gynllun Dewis Cartref yn y Cymoedd.

Am fwy o wybodaeth am y cynllun, ffurflen gais ac am fanylion o eiddo sydd ar gael ar hyn o bryd, dewiswch un o’r dolenni canlynol os gwelwch yn dda:

Valleys Home Choice
Taflen Ffvithiau Tai

I holi am ffurflen gais dros y ffôn, wnewch chi ffonio ein Llinell Gyswllt Dewis Cartref y Cymoedd os gwelwch yn dda ar 0845 6026125.

Mae’r eiddo rydym yn berchen arno yn y Drenewydd yn y Faenor a’r Santes Fair. I holi am ffurflen gais am yr eiddo hyn, wnewch chi gysylltu â’n swyddfa yn y Drenewydd os gwelwch yn dda ar 01686 621965.


Cyfnewid â’ch Gilydd

Os ydych yn denant ar hyn o bryd i Gymdeithas Dai neu i Awdurdod Lleol gallech fod yn gymwys i gyfnewid eich cartref am un tenant arall.

Mae Newydd yn cadw cofrestr o denantiaid sy’n dymuno cyfnewid eu cartrefi. Mae hwn ar gael yn y Swyddfa Rhanbarthol.

Cofiwch, os gwelwch yn dda, fod yna gyfyngiadau arbennig ynglŷn â chyfnewid â’ch gilydd, darllenwch ein llawlyfr tenantiaid neu cysylltwch â’ch Swyddog Tai am wybodaeth pellach.


Perchnogaeth Cartref Cost Isel/Prynu Cartref

Mae Newydd yn gwerthu tai yn is na chyfraddau’r farchnad. Fel rheol, mae hyn yn golygu fod Newydd yn rhoi cymhorthdal at gost yr eiddo o 30%. Ni chodir unrhyw rent yn ystod cyfnod y perchnogaeth ond gofynnir i’r perchennog, fodd bynnag, dalu’n ôl 30% o werth y farchnad pan werthir yr eiddo.

Er Enghraifft:

Pris pryniant gwreiddiol: £100,000
Cyfaniad Newydd: £30,000
Cyfraniad y Prynwr: £70,000

Pris Ailwerthu: £130,000
Talu’n ôl i Newydd: £39,000

Am fwy o wybodaeth am Gymorth Prynu dilynwch y cyswllt hwn:

Cymorth Prynu 1 Cynulliad Cenedlaethol Cymry

Canllaw Cymorth Prynu 2 Cynulliad Cenedlaethol Cymry

Am fanylion ynglŷn â chynlluniau penodol neu am wybodaeth bellach cysylltwch, os gwelwch yn dda â’n swyddfa.


Llety i Weithiwr Allweddol

Ar hyn o bryd rydym yn trefnu cynllun tai i weithwyr allweddol yn Palmerston House, Dobbins Road, Y Barri

Mae’r cynllun yn cynnwys 11 fflat hunan gynhaliol gydag un neu ddwy ystafell wely. Rhent yr eiddo yw tua £82 yr wythnos am le ag un ystafell wely a £95 yr wythnos am eiddo â dwy ystafell wely.

I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun rhaid i chi weithio ym Mro Morgannwg, heb wneud cais am fudd-dal tai yn ystod y deuddeg mis diwethaf ac heb fod â chynilion o fwy na £8,000.

Disgwylir i denantiaid dalu mis o rent o flaenllaw a bond cyn symud i fyw yn y fflat. Yn ychwanegol bydd rhaid cael geirda gan y cyflogwr a gwneir gwiriad ariannol ar pob ymgeisydd

I gofnodi diddordeb yn y cynllun cysylltwch, os gwelwch yn dda, gyda Ben Woods ar 01443 704318.