Cadarn Housing Group

Newydd Vale, Newyddion



Fflatiau newydd yn Stryd Merthyr

Ddiwedd Chwefror 2007 agorodd Newydd ei ddatblygiad diweddaraf. Mae’r cynllun yn cynnwys chwe fflat hunangynhaliol un ystafell wely. Mae’r tenantiaid newydd wedi symud i mewn iddyn nhw’n ddiweddar ac wedi rhoi adborth cadarnhaol i ni am ansawdd, dyluniad a lleoliad y fflatiau. Mae’r datblygiad wedi gwella golwg yr ardal ac wedi ail wneud ddefnydd o ddarn o dir a fu unwaith yn ganolfan arddio. Dywedodd Rheolwr Tai Newydd yn y Fro Nick Jones, “Rydym yn eithriadol o falch o’r datblygiad diweddaraf; mae’r fflatiau’n cynnig tai o ansawdd da iawn yn agos at y cyfleusterau lleol ar Ffordd Holton. Rydym yn falch o fod wedi gallu cyfrannu tuag at adfywiad canol y dref a darparu tai cost isel, o’r math y mae cymaint o’u hangen, ar rent.”


Newydd 90

Mae ymgynghoriad cyntaf Newydd 90 wedi creu ymateb brwdfrydig oddi wrth yr aelodau gydag ymhell dros gant o denantiaid yn rhoi o’u hamser i gyflwyno i ni eu barn a’u sylwadau. Y pwnc cyntaf oedd Gwasanaeth y Cwsmer a safonau’r Gwasanaeth ac mae’r wybodaeth a gyflwynwyd wedi bod yn eithriadol o ddefnyddiol, gan ganiatáu i ni i ddatblygu ein Polisi newydd Gofal am y Cwsmer. Am fwy o wybodaeth ar y pwnc yma neu os am gopi o’n Polisi Gofal am y Cwsmer diweddaraf cysylltwch â’n Swyddog Tai, os gwelwch yn dda.


Byrddau Rhanbarthol

Yn ddiweddar bu i aelodau o Fyrddau Rhanbarthol y Fro a’r Cymoedd gyfarfod a chytuno i newid y ffordd y maent yn gweithredu. Bydd y Byrddau Rhanbarthol bellach yn cael eu dileu a bydd Paneli Cymunedol yn cymryd eu lle. Bydd y Paneli Cymunedol yn cynnwys mwy o denantiaid a bydd ganddynt ffocws mwy treiddgar ar y materion maent yn eu hystyried yn bwysig gan gynnwys: atgyweiriadau, rhenti, ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rhagwelir y bydd y Paneli’n cwrdd yn fisol ac yn gwneud argymhellion i newid y ffordd mae’r gwasanaethau’n cael eu darparu. Esboniodd y Cyfarwyddwr Tai, Jason Wroe “Bydd y Paneli Cymunedol newydd yn ein caniatáu i gryfhau ein cysylltiadau gyda chymdeithasau a grwpiau tenantiaid; byddant yn symleiddio’r broses o gyrraedd penderfyniad ac yn rhoi cyfle i’r tenantiaid rhoi hyd yn oed mwy o fewnbwn i ddarparu gwasanaeth. Ymhellach, bydd mwy o’r tenantiaid sy’n byw yn rhai o’n stoc wasgaredig neu sydd heb eu cynrychioli gan grŵp tenantiaid yn cael cyfle i fod â mwy o ran yn y trafodaethau.” Mae recriwtio aelodau ar gyfer y paneli newydd ar fin dechrau felly os oes gennych chi ddiddordeb, a wnewch chi, os gwelwch yn dda, gysylltu â Catryn Grundy, Swyddog Cysylltiad â’r Gymuned ar 01446 701501.


Cardiau Talu Rhent

Bydd llawer o denantiaid wedi sylwi’u bod nhw wedi derbyn cerdyn rhent newydd yn ddiweddar. Mae’r cerdyn hwn yn cymryd lle'r cerdyn sy’n bodoli ar hyn o bryd a dylid ei ddinistrio. Mae’r angen am gerdyn newydd yn codi o rai o’r newidiadau a gyflwynwyd gan ein darparwr gwasanaeth – Allpay. Nid yw Allpay bellach yn gweithio gyda PayPoint sy’n golygu na all tenantiaid mwyach ddefnyddio allfeydd (outlets) PayPoint. Bydd tenantiaid, fodd bynnag, yn gallu parhau i dalu mewn nifer fawr o wahanol siopau lleol a siopau cyfleus sy’n arddangos symbolau PayZone neu Epay. Yn ychwanegol gall tenantiaid barhau i dalu yn y swyddfa Ranbarthol, unrhyw Swyddfa Bost, dros y ffôn neu drwy’r fewnrwyd. Am fwy o wybodaeth am ddewisiadau talu cysylltwch â’ch Swyddog Tai os gwelwch yn dda.


Newydd Valleys, Newyddion



Newidiadau Atgyweirio

Yn ddiweddar rydym wedi gwneud newidiadau pwysig i’r ffordd rydym yn gweinyddu atgyweiriadau. Rhaid rhoi gwybod nawr am bob atgyweiriad drwy ein llinell gyswllt atgyweiriadau ganolog 0845 6031696.

Bellach ni ellir ymdrin gyda atgyweiriadau yn ein swyddfeydd Rhanbarthol; mae ffôn ar gael, fodd bynnag, i gwsmeriaid ei ddefnyddio wrth roi gwybod am atgyweiriadau.

Mae yna newidiadau hefyd wedi bod i’r ffordd rydym yn gwneud gwaith atgyweirio. Yn ei hanfod yr hyn rydym yn geisio’i wneud yw ateb y gofyn mewn ffordd sydd wedi’i chynllunio’n well. Bydd tenantiaid wedi derbyn copi o daflen cynnal a chadw sy’n amlygu’r newidiadau hyn mewn mwy o fanylder.

Os dymunwch dderbyn copi o’r daflen hon, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda.


Lansio Newydd 90

Mae’n bwysig fod ein cwsmeriaid i gyd yn cael cyfleon dilys a gwerth chweil i ddweud wrthym beth yw eu barn am y gwasanaethau maent yn eu derbyn ac i gael cyfle i gynllunio i’r dyfodol. Mae Newydd yn cydnabod nad oes gan bawb amser i fynychu cyfarfodydd neu grwpiau Ffocws ac felly mae Newydd 90 yn grŵp ymgynghori tenantiaid newydd sy’n rhoi cyfle i denantiaid i leisio’i barn am y ffordd rydym yn cynllunio a throsglwyddo ein gwasanaethau drwy ddefnyddio holiaduron a anfonir drwy’r post. Gofynnir i denantiaid sy’n ymuno â’r grŵp i lenwi cyfres o holiaduron drwy’r flwyddyn a gall unrhyw un o’n tenantiaid ymuno.

Os dymunwch dderbyn pecyn gwybodaeth, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda.


Eich dewis o ddull cyfathrebu

Yn ddiweddar, fe wnaethom ysgrifennu i bawb o’n cwsmeriaid i geisio sefydlu pa ddull o gyfathrebu sydd orau gennych. Os nad ydych wedi rhoi gwybod yn wahanol i ni byddwn yn ymdrin â chi fel arfer yn Saesneg a bydd yr holl ohebiaeth ysgrifenedig mewn maint ffont safonol.

Os oes gennych anghenion penodol e.e. i gysylltu mewn iaith wahanol neu os dymunwch i’r wybodaeth fod mewn fformat gwahanol e.e. Braille, tâp sain, ffont mawr, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.