Cadarn Housing Group

Swyddi gwag presennol


Saesneg yw’r iaith swyddogol y grwp felly mae’r recriwtiad yn cael i drin trwy cyfrwng Saesneg. Am fanylion o swyddi dilynwch y linc trwy tudalen swyddi y grwp a’r safle saesneg.

Swyddi (Saesneg)

Houses

Swyddi

CADARN…DEWUS GWELL


Pam gweithio i Grŵp Tai Cadarn?


Drwy weithio i ni, byddwch yn gwneud dewis gwell. Mae Cadarn yn sefydliad ac enw da ganddo sy’n parchu ei staff. Yn ogystal â bod yn lle da i weithio byddwn yn cynnig cyflog cystadleuol iawn i chi. Os nad ydi hyn yn ddigon, gallwn hefyd gynnig y buddiannau canlynol i chi:


  • Oriau Hyblyg

    Rydym yn gweithredu system weithio oriau hyblyg, er mwyn cynnig gwasanaeth mwy ymatebol ac i siwtio’ch ffordd chi o fyw.

  • Gwyliau blynyddol

    Hawl gwyliau sylfaenol yw 25 diwrnod ond sy’n cynyddu i uchafswm o 30 diwrnod (a gwyliau Banc a thri diwrnod ychwanegol a roddir rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd). Gall staff ddewis i brynu neu werthu hyd at 5 diwrnod o wyliau blynyddol bob blwyddyn.

  • Hyfforddiant a datblygiad

    Fel sefydliad Buddsoddwyr mewn Pobl, rydym yn ymroddedig i gynnig hyfforddiant o safon da i chi yn rheolaidd, er mwyn sicrhau eich bod yn parhau â’ch rôl i’r safon uchaf.

  • Aelodaeth broffesiynol

    Bydd y grŵp yn talu ffioedd aelodaeth blynyddol pob sefydliad a chorff proffesiynol.

  • Cynllun Pensiwne

    Bydd yn rhaid i chi ymuno hefo’n cynllun pensiwn cyfrannol ni.

  • Termau ac Amodau Cyflogaeth

    Cynigiwn fuddiannau gwell o ran mamolaeth, tadolaeth, salwch a darpariadau statudol eraill.

I ddarganfod pam y dylech weithio i ni ac i ofyn am becyn cais, galwch 01446 704329, e-bostiwch jobs@cadarn.co.uk neu lawr lwythwch y pecyn swydd yr ydych â diddordeb ynddi uchod. Mae’n rhaid gwneud ceisiadau ar ffurflen gais y grŵp. Os gwelwch yn dda, peidiwch â chyflwyno CV am nad ystyrir rhain. Mae’r grŵp yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymdeithas.